Tai Chi Works -> Straen yn y gweithle |
||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
|
![]() |
||||||||
| Straen yn y gweithle Er fod angen rhywfaint o densiwn weithiau i deimlo'n frwdfrydig wrth eich gwaith, gall gormod o straen achosi salwch. Yn y byd llawn bwrlwm sydd ohoni heddiw, mae hyd at hanner miliwn o bobl yn y DU yn credu fod straen oherwydd gwaith yn eu gwneud nhw'n sâl. Cliciwch yma i weld beth sydd gan MIND i ddweud am straen yn y gwaith. Mae cyflyrau'n deillio o straen yn gyfrifol am tua 60% o'r 67 miliwn o ddyddiau gwaith sy'n cael eu colli'n flynyddol, yn ôl ffigyrau diweddar oddi wrth yr HSE. Gwelir mwy a mwy o dystiolaeth ynglyn ag effeithiau straen ar iechyd personol ac ar iechyd economaidd busnesau. Er enghraifft, mae'r Conffederasiwn Diwydiant Prydeinig (CBI) wedi amcangyfrif fod busnesau'n colli dros £10 biliwn bob blwyddyn drwy ddiffyg cyhyrchiant oherwydd straen. Cliciwch yma i weld beth sydd gan yr HSE i ddweud am ddelio â straen yn y gwaith. Mae gan gwmnïau ddyletswydd cyfreithiol i weithredu. Ac mae'n gwneud synnwyr iddyn nhw hefyd, gan fod gweithlu di-straen yn hapusach, yn fwy effeithlon ac yn fwy cynhyrchiol. Cliciwch yma i weld beth sydd gan y TUC i ddweud am gyfrifoldebau rheolwyr. Cliciwch yma i weld beth sydd gan ACAS i ddweud am straen yn y gwaith. Nid yw Tai Chi Works yn gyfrifol am gynnwys nac iaith gwefannau allanol |
||||||||||
![]() |
||||||||||