Tai Chi Works -> Straen yn y gweithle -> Beth ellir ei wneud? |
||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
|
![]() |
||||||||
| Mae nifer o gyrff yn cynnig cyngor ar sut gellir ymdopi â straen diangen yn y gwaith, yn aml drwy raglenni ymarfer. Er enghraifft: Mae Tai Chi Works yn cefnogi menter Her Iechyd Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae pawb yn cytuno fod gweithgaredd corfforol yn ffordd bwysig o leihau straen. Mae'n gwneud defnydd o adrenalin a hormonau eraill a gynhyrchir gan y corff dan straen, yn ymlacio'r cyhyrau ac yn gwella cylchrediad y gwaed. Yn ogystal, gall ymarfer newid y ffordd rydych yn teimlo, drwy godi hunan-barch a lleihau pryder. Mae Tai Chi yn system ymarfer gymedrol ond hynod effeithiol. Mae Ymlacio yn ateb naturiol i straen. Mae ymarferion anadlu dan reolaeth a dysgu sut i ryddhau tensiwn yn y corff ill dau yn hybu ymlacio; dyma ddau o egwyddorion hanfodol Tai Chi. Mae Myfyrio yn ddull defnyddiol ar gyfer ail-ffocysu'r meddwl. Gelwir Tai Chi yn ‘fyfyrdod symudol' yn aml.
Nid yw Tai Chi Works yn gyfrifol am gynnwys nac iaith gwefannau allanol |
||||||||||
![]() |
||||||||||