| |
Pwy ydyn ni?
Tony Brown a Gwenan Evans yw'r partneriaid yn Tai Chi Works.
Maent rhyngddynt wedi bod yn ymarfer Tai Chi ers dros 20 mlynedd, ac maent ill dau wedi cofrestru gyda'r BCCMA (Cyngor Prydeinig y Celfyddydau Milwrol Chineaidd) fel Hyfforddwyr Tai Chi. Maent wedi dysgu Tai Chi i fyfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd a galluoedd corfforol, mewn nifer o wahanol sefyllfaoedd, gan gynnwys y sector addysg i oedolion, clybiau iechyd a chyrsiau hyfforddi corfforaethol. Mae ganddynt ddealltwriaeth gadarn o ddefnyddio Tai Chi er lles iechyd a phrofiad personol o fanteision corfforol a meddyliol ymarfer y gelfyddyd yn reolaidd. Mae ganddynt hefyd brofiad o reoli yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Lleolir Tai Chi Works yn ardal Caerdydd, ond mae'n gweithredu ledled Cymru a De Orllewin Lloegr. Mae'r holl wasanaethau a gweithdai ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.
Gwenan:
“Roeddwn i wedi bod yn ymarfer Ioga ers dros 20 mlynedd pan ddes i ar draws Tai Chi gyntaf, wyth mlynedd yn ôl yn ystod taith i China. Roedd gweld cymaint o bobl yn perfformio'r symudiadau araf celfydd gyda'i gilydd yn olygfa hudolus. Des o hyd i ddosbarth yn fy nghlwb iechyd yng Nghaerdydd, ac rwyf wedi gwirioni byth ers hynny!
I mi, Tai Chi yw'r system ymarfer rwyn ei mwynhau orau o bell ffordd. Mae cyfuno'r symudiadau araf gyda'r anadl a ffocws meddyliol yn cadw'r cyhyrau yn ystwyth, yn codi lefelau egni ac yn gwneud i chi ymlacio ar yr un pryd.
Wrth i mi ddysgu mwy drwy ymarfer a darllen am Tai Chi, rwyf wedi magu diddordeb ysol yn yr athroniaeth ddwyreiniol o sut mae'r corff yn gweithio a'i syniadau holistaidd am iechyd a salwch, cymaint felly fel fy mod ‘nawr yn dilyn cwrs hyfforddiant tair blynedd yn y Coleg Meddygaeth Chineaidd Integredig yn Reading.”
Tony:
“Ers y tro cyntaf i mi weld pobl yn perfformio Tai Chi, roeddwn yn gwybod y byddwn wrth fy modd yn ei brofi a'i ddarganfod i mi fy hun. Ac yn y blynyddoedd ers hynny, rwyf wedi darganfod fod yn profiad yn gwella'n barhaol, a bod dyfnderoedd eang i'r system.
Mae cyflwyno Tai Chi i bobl drwy ddysgu wedi bod yn bleser o'r mwyaf, yn enwedig pan mae golau dealltwriaeth yn gloywi llygaid y myfyrwyr. I mi, mae Tai Chi yn eich galluogi i ddysgu am eich corff, ac i ddatblygu elfen o ‘reolaeth feddal' drosto; nid ei orfodi i wneud unrhyw beth, ond dod o hyd i gydbwyseddd rhwng ymdrechu ac ymlacio, a chysylltiad rhwng meddwl a gweithred. Rydym i gyd yn byw mewn byd llawn prysurdeb a gwylltineb, a heb Tai Chi byddwn i'n ei chael hi'n anoddach o lawer i ganolbwyntio a chadw'n gymharol ddi-straen.”
|
|