English

Tai Chi Works -> Pam Tai Chi?

 

 
 

Pam Tai Chi?

Mae nifer o ymgyrchoedd, yn cynnwys Her Iechyd Cymru, yn awgrymu y dylai cyflogwyr annog eu staff i wneud ymarfer corff bob dydd.

Ond nid yw pob rhaglen ymarfer yn y gweithle yn addas i bawb. Er enghraifft, nid yw ymarfer erobig a chwaraeon yn apelio at bawb, a gall ioga fod yn anaddas i unigolion sydd â phrofiad cyfyngedig o wneud ymarfer corff yn y gorffennol.

Datblygodd Tai Chi yn China o leiaf 2000 mlynedd yn ôl. System ymarfer impact isel yw hi, sy'n dod yn gynyddol boblogaidd yn y Gorllewin. Gelwir symudiadau Tai Chi weithiau yn ‘Fyfyrdod Symudol'; maen nhw'n hybu llif egni drwy'r corff, ffitrwydd, ymlacio a ffocws meddyliol.

Nid oes angen unrhyw sgiliau, gwisg nag offer arbennig i wneud Tai Chi, a gallwch ei wneud yn unrhyw le, ar eich pen eich hun neu mewn grwp. Mae'r ffurfiau sylfaenol yn cymeryd rhwng 5 ac 20 munud i'w perfformio ac maen nhw'n hawdd i'w dysgu.

Does braidd dim anfanteision i Tai Chi: mae'n addas i bawb ac yn cynnig manteision i'r unigolion a'r cyflogwyr fel ei gilydd.

Gall ymarfer Tai Chi yn rheolaidd arwain at y canlynol:

lleihau straen
cryfhau ac ystwytho'r cyhyrau
cynyddu egni a stamina
gwella ffitrwydd cardiofasgwlaidd
teimlo'n well yn gyffredinol
gwella ansawdd cwsg
gostwng pwysau gwaed uchel

Dyma rai erthyglau ar fanteision ymarfer Tai Chi o'r DU ac o rannau eraill o'r byd.

Erthygl o The Guardian
Erthyglau o'r British Medical Journal
The Mayo Clinic

World Tai Chi Day
Medicinenet
Spine-health
Wikipedia

Nid yw Tai Chi Works yn gyfrifol am gynnwys ac iaith gwefannau allanol